Lleoliad:
Ystafell Bwyllgora 1 - y Senedd
Dyddiad: Dydd Mawrth, 17 Ionawr 2017
Amser: 09.00 -
09.42
Gellir gwylio’r cyfarfod ar Senedd TV
yn:
http://senedd.tv/cy/3943
Categori |
Enwau |
Aelodau’r Cynulliad: |
Mike Hedges AC (Cadeirydd) Gareth Bennett AC Janet Finch-Saunders AC Dai Lloyd AC |
Tystion: |
|
Staff y Pwyllgor: |
Graeme Francis (Clerc) Kath Thomas (Dirprwy Glerc) Jessica England (Dirprwy Glerc) Sam Mason (Cynghorydd Cyfreithiol) Lisa Salkeld (Cynghorydd Cyfreithiol) |
Trawsgrifiad
Gweld trawsgrifiad o’r cyfarfod (PDF 303KB) Gweld fel HTML (103KB)
Trafododd y Pwyllgor y ddeiseb am y tro cyntaf a chytunodd i ysgrifennu at y deisebydd i ofyn ei farn ar y wybodaeth a gafwyd gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd, Llesiant a Chwaraeon.
Trafododd y Pwyllgor y ddeiseb am y tro cyntaf a chytunodd i ohirio ei thrafodaethau tan fod y gwaith o graffu ar Fil Cymru wedi'i gwblhau, ac i ystyried safbwyntiau manwl y deisebydd ar y cam hwnnw.
Trafododd y Pwyllgor y ddeiseb am y tro cyntaf a chytunodd i ysgrifennu at Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a'r Seilwaith i ofyn a oes asesiad llawn wedi'i gyflawni o effaith cyflwyno terfyn cyflymder newidiol, a gofyn iddo rannu unrhyw ganfyddiadau â'r Pwyllgor.
Trafododd y Pwyllgor y ddeiseb am y tro cyntaf a chytunodd i ysgrifennu at Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid a Llywodraeth Leol er mwyn gofyn a fyddai'r deisebwyr yn gallu cyfrannu at y broses o ddatblygu cynigion i ddiwygio llywodraeth leol, ac os felly, sut.
Trafododd y Pwyllgor y ddeiseb am y tro cyntaf a chytunodd i aros am ymateb gan y deisebydd cyn penderfynu pa gamau i'w cymryd ynglŷn â'r mater.
Trafododd y Pwyllgor y ddeiseb am y tro cyntaf a chytunodd i aros am ymateb gan y deisebydd, ac i ysgrifennu at Fwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr i ofyn pa gamau sy'n cael eu cymryd i wella amseroedd aros yr adran Damweiniau ac Achosion Brys Ysbyty Maelor Wrecsam.
Trafododd y Pwyllgor y ddeiseb am y tro cyntaf a chytunodd i aros am farn y deisebydd ar ymateb Llywodraeth Cymru cyn penderfynu a ddylid cymryd camau pellach ynglŷn â'r mater hwn.
Trafododd y Pwyllgor yr ohebiaeth ddiweddaraf gan y deisebydd gan fynegi siom na gafwyd ymateb i'r ohebiaeth flaenorol a anfonwyd at Fwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr. Cytunodd y Pwyllgor i ysgrifennu eto at y Bwrdd Iechyd, gan geisio:
· ei ymateb i'r sylwadau diweddaraf gan y deisebydd, a;
· gwybodaeth am fynediad i wasanaethau mân anafiadau yn ardal Tywyn, gan gynnwys y tu allan i oriau agor Ysbyty Tywyn.
Trafododd y Pwyllgor yr ohebiaeth gan y deisebydd a chytunodd i gau'r ddeiseb gan fod y deisebydd bellach wedi cadarnhau, gan na chyflwynwyd y newidiadau arfaethedig y rhoddwyd sylw iddynt yn y ddeiseb, ei bod yn fodlon bod canlyniad derbyniol wedi'i sicrhau ar y mater.
Trafododd y Pwyllgor yr ohebiaeth gan Gadeirydd y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus a chytunodd i aros am adroddiad y Pwyllgor ar arlwyo mewn ysbytai a maeth cleifion, ac i geisio barn y deisebydd ar ôl hynny.
Trafododd y Pwyllgor yr ohebiaeth gan Weinidog y Gymraeg a Dysgu Gydol Oes a'r deisebydd a chytunodd i gau'r ddeiseb a diolch i'r deisebydd am ei gyfraniad. Wrth wneud hynny, cytunodd y Pwyllgor i rannu'r cynnig a wnaed gan y deisebydd i gefnogi'r gwaith o ddatblygu pencampwyr iaith cymunedol gyda Llywodraeth Cymru ac Un Llais Cymru.
Trafododd y Pwyllgor yr ymateb gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid a Llywodraeth Leol a chytunodd i ofyn am ragor o wybodaeth am sut y mae'n bwriadu mynd ati i orfodi'r drefn o recordio trafodion.
Trafododd y Pwyllgor sylwadau gan y deisebydd a chytunodd i gau'r ddeiseb ar y sail y bydd y gyllideb ar gyfer Teuluoedd yn Gyntaf yn cael ei chynnal ar gyfer 2017-2018.
Trafododd y Pwyllgor ohebiaeth gan y deisebydd a chytunodd i rannu canlyniadau'r cynllun monitro traffig gydag Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a'r Seilwaith, gan ofyn am ei sylwadau a gofyn a allai'r wybodaeth hon gael ei hystyried fel rhan o'r gwaith parhaus ar ddiogelwch y darn hwn o'r ffordd.